Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 19 Ionawr 2017

Amser: 09.30 - 13.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3861


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Jayne Bryant AC

Angela Burns AC

Rhun ap Iorwerth AC

Caroline Jones AC

Julie Morgan AC

Tystion:

Andy McGuinness, Crohn's and Colitis UK

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Edward Woodall, Cymdeithas Siopau Cyfleustra

Ray Monelle, Ffederasiwn Cenedlaethol Manwerthwyr Papurau Newydd

John Parkinson, Ffederasiwn Cenedlaethol Manwerthwyr Papurau Newydd

Julie Barratt, Sefydliad Siartredig lechyd yr Amgylchedd

Staff y Pwyllgor:

Claire Morris (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Dirprwy Glerc)

Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

 

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 502KB) Gweld fel HTML (295KB)

 

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle AC.

 

2       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 10 - Crohn's and Colitis UK

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o Crohn's and Colitis UK

 

3       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 11 - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

 

4       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 12 - Cymdeithas Siopau Cyfleustra a Ffederasiwn Cenedlaethol Manwerthwyr Papurau Newydd

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o'r Gymdeithas Siopau Cyfleustra a Ffederasiwn Cenedlaethol Manwerthwyr Papurau Newydd.

 

5       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 13 – Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.

 

6       Papurau i'w nodi

6.1   Llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynglŷn â Dementia

6.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynglŷn â Dementia

 

6.2   Llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â’r adroddiad ‘Lle i’w Alw’n Gartref?’

6.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â’r adroddiad ‘Lle i’w Alw’n Gartref?’

 

6.3   Llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynglŷn â Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

6.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynglŷn â Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

 

7       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

8       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 10, 11, 12 a 13 – ystyried y dystiolaeth

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Crohn’s and Colitis UK, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Cymdeithas Siopau Cyfleustra, Ffederasiwn Cenedlaethol Manwerthwyr Papurau Newydd a Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.

 

9       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Cyfnod 1 - ystyried y materion allweddol

9.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod y gwaith craffu ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) cyn iddo baratoi ei adroddiad drafft.